Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn pryderu am effaith costau cynyddol ar y sectorau sy'n rhan o'u portffolio. Bydd yn cynnal ymchwiliad byr yn edrych ar yr effeithiau hyn, a pha gefnogaeth sydd ei angen, cyn gwneud argymhellion i Lywodraethau Cymru a'r DU. Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb penodol mewn materion sy'n benodol i'ch sector chi, neu'n fwy aciwt ynddo na mewn cymdeithas yn gyffredinol.

 

Hoffai'r Pwyllgor wybod:

 

·      Pa effeithiau y mae costau byw cynyddol wedi'u cael ar eich sefydliad a'ch sector hyd yma?

 

Yn fewnol:

Rheolir Hafren gan Grŵp Colegau NPTC ac mae'n talu canran o ffioedd cyfleustodau Coleg y Drenewydd (Gogledd Powys) e.e. Nwy, Trydan a Dŵr/Carthion.  Does dim byd o'r costau wedi'u codi i gyfrif canolfan gost Hafren eto.  Rydym yn disgwyl y chwarter cyntaf o daliadau uwch o fis Hydref 2022.  Yn ystod y cyfnod cau Covid, buddsoddodd Grŵp Colegau NPTC yn Hafren trwy brynu a gosod system Trin Aer am gost o £250,000.  Pwrpas hyn yw hidlo a chylchredeg aer yn ein awditoriwm mawr er cysur cwsmeriaid a hylendid.  Heb y system hon roeddem yn amau a fyddai gan gwsmeriaid yr hyder i ddychwelyd i berfformiadau dan do.  Mae'r system newydd hon yn ychwanegol at ein system wresogi bresennol, ac yn amlwg mae'n cymryd mwy o ynni i'w gweithredu.  Yn ystod y cyfnod cau Covid-19, newidiwyd y boeleri nwy i'r systemau effeithlon diweddaraf, er mwyn gostwng costau rhedeg a bod yn fwy effeithlon o ran ynni. Buddsoddodd Hafren hefyd mewn goleuadau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon - yn gyffredinol ac ar gyfer perfformiadau e.e. newidiwyd i rai LED.  Unwaith eto, mae'r gobaith o negyddu cynnydd chwyddiant bach bellach wedi diflannu.

 

Er y byddwn yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon, caiff unrhyw arbedion eu dileu gan gostau ynni cynyddol. 

 

Mae Hafren wedi llwyddo i gymathu'r cynnydd mewn prisiau ar gyfer ein mannau gwasanaeth Blaen Tŷ – y Bar, y Siop Goffi a Hufen Iâ.  Nawr bod costau'n parhau i godi, rydyn ni'n cael ein gorfodi i godi prisiau, er hynny, nid yw'n talu am y cynnydd.  Mae'r incwm eilaidd pwysig hwn o werthiannau wedi cefnogi craidd y sefydliad, ond gyda chynulleidfaoedd gostyngol a llai yn prynu am brisiau uwch, bydd y llinell incwm hon hefyd yn gostwng.

 

Yn allanol:

Mae cwsmeriaid wedi bod yn lleihau eu gwariant yn sylweddol, gan wybod bod taliadau cyfleustodau yn mynd i godi yn y dyfodol agos.  Mae incwm gwario eisoes wedi lleihau'n sylweddol gan i arian gael ei roi o'r neilltu ar gyfer biliau cyfleustodau yn y dyfodol, a gorfod darparu ar gyfer costau tanwydd/teithio a bwyd sylweddol uwch.  Mae tocynnau'n gwerthu'n llawer arafach, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn gohirio prynu'n gynnar nes eu bod yn gwybod beth yw eu sefyllfa ariannol.  Roedd ymddygiad cynulleidfaoedd o ran prynu tocynnau wedi newid yn sylweddol, gan gyfrannu at yr effaith ar ein hincwm.  Erbyn hyn mae tocynnau'n cael eu prynu'n ddiweddarach ar ôl i'r sioe gael ei chyhoeddi.   Gall yr ymddygiad hwn effeithio ar lwyddiant taith y sioe, band neu artist hwnnw - efallai y bydd yn cau'n gynnar oherwydd i docynnau werthu'n araf, neu'n arwain at daith fyrrach a mwy lleol.

Cyn Covid, roedd cwsmeriaid yn prynu tocynnau, ar gyfartaledd, 4 – 6 wythnos ymlaen llaw.  Erbyn hyn rydym yn gweld y nifer uchaf o docynnau ar gyfer perfformiad yn cael eu prynu yn ystod wythnos y perfformiad.  Mae hyn wedi arwain at yr angen am fwy o weithgarwch marchnata a chyhoeddusrwydd, gan nad ydym yn gwybod a yw cwsmeriaid posib ond yn aros i weld a allant fforddio tocynnau, neu a allai fod angen iddynt ynysu ar fyr rybudd oherwydd Covid-19 neu os nad ydynt yn ymwybodol o'r perfformiad.

 

Mae cynnydd mawr mewn costau tanwydd wedi cael effaith uniongyrchol ar Hafren, sydd wedi'i lleoli'n wledig yn Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn.  Tua 500 milltir sgwâr yw dalgylch Hafren.  Prin yw'r cludiant cyhoeddus, hyd yn oed i gwsmeriaid lleol.  Mae llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus wedi'u cwtogi a'r amseroedd gweithredu wedi'u gostwng.  Gan mai economi gyda'r nos yw'r theatr ar y cyfan, mae system cludiant cyhoeddus sy'n cau i lawr wedi 8pm, yn golygu bod cwsmeriaid yn gorfod gyrru i ni.  Mae perchnogaeth ceir yn uchel yng Nghanolbarth Cymru.

 

Teithio - mae llawer o gwmnïau a fu'n ymweld fel cyfranwyr rheolaidd i'n rhaglen wedi gweld effaith costau trafnidiaeth a llety sy'n codi'n serth, gan gyfyngu ar hyd a chwmpas eu taith.  Erbyn hyn, nid yw rhai cwmnïau'n gallu teithio ymhell iawn o'u canolfannau cynhyrchu (fel arfer yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd) gan na all eu cyllidebau dalu'r costau ychwanegol hyn.  Mae hyn yn gadael trigolion Canolbarth Cymru heb gynyrchiadau o Gymru.

 

Dechreuodd yr argyfwng costau byw yn ôl ym mis Chwefror gyda'r cynnydd aruthrol mewn prisiau tanwydd a chostau bwyd, yna ym mis Ebrill roedd cynnydd mawr yn y Dreth Cyngor, i gyd wrth i'r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ostwng.  Daw hyn yn sgil Brexit ac yna Covid-19.  Cyfres ryfeddol o ddigwyddiadau. 

 

Roedd Hafren eisoes mewn cyflwr gwan, yn sgil Cyfyngiadau'r Pandemig.  Erbyn hyn rydym yn wynebu un o'r sefyllfaoedd ariannol anoddaf yn ein heconomi.  Mae'r argyfwng costau byw yn bygwth dinistrio'r rhan hon o'r sector a niweidio'r ecosystem y mae diwydiant adloniant y DU yn dibynnu arni.

 Yn emosiynol, mae'r cyhoedd wedi'i ddisbyddu, ac mae'r sylw di-baid yn y cyfryngau ynghylch pa mor wael fydd y sefyllfa mewn gwirionedd, yn arwain at droell cyffredinol o ddirywiad yn iechyd meddwl y DU.

 

 

·      Pa effeithiau ydych chi'n rhagweld y bydd costau cynyddol yn eu cael ar eich sefydliad a'ch sector? I ba raddau na fydd modd troi'n ôl o'r effeithiau hyn (e.e. lleoliadau'n cau, yn hytrach na chyfyngiad dros dro mewn gweithgareddau)?

 

Rwy'n gobeithio ein bod ni'n sector cydnerth, rydyn ni wedi dangos y gallwn ni oroesi effaith eithriadol y pandemig, ond mae 'na derfyn i bethau.  Mae'n teimlo fel marw o 1,000 o doriadau. 

Ni fydd gan yr holl theatrau a lleoliadau sydd wedi llwyddo i oroesi trwy waith caled eithriadol, fwy o gronfeydd wrth gefn i alw arnynt, ac ni fydd unrhyw arbedion cost y gallwn eu gwneud heb wneud newidiadau difrifol iawn i'n busnesau a'n safleoedd.

Rwy'n benderfynol na fydd y cynnydd mewn costau gwresogi'n arwain at golli swyddi, ond nid yw'n realistig i Hafren nac unrhyw theatr arall gynyddu prisiau tocynnau yng nghanol argyfwng costau byw. 

Mae'r sector diwylliannol mewn sefyllfa argyfyngus wrth i ni geisio ailadeiladu ar ôl y pandemig. Mae'r llywodraeth yn dweud cryn dipyn am sut y mae'n cynnig cefnogaeth i aelwydydd, ond does dim ystyriaeth yn cael ei roi i'r sector elusennol a gwirfoddol sy'n rhedeg adeiladau cyhoeddus.  Mae'n annhebygol iawn y bydd prisiau ynni'n dychwelyd i lefelau 2021, felly ni ellir troi'n ôl o'r effaith yr ydym yn ei theimlo.  Bydd mesurau dros dro yn profi'n ofer. 

Rydym yn cynnig gweithgareddau ar ôl ysgol am ddim, a gweithgareddau celf yn ystod y gwyliau i lawer o blant sy'n wynebu caledi sylweddol a lefelau lluosog o amddifadedd.  Mae teuluoedd eisoes yn dweud wrthym mai ein cynnig ni yw'r unig beth mae eu plant yn cael gwneud y tu allan o'r ysgol gan na allant fforddio unrhyw beth arall.  Rwy'n tybio y bydd y galw hwn yn cynyddu'n sylweddol y gaeaf yma, wrth i deuluoedd geisio arbed ynni eu hunain, felly mae'n fwy byth o gyfrifoldeb arnom ni i barhau i ddarparu amgylchedd cynnes, diogel, creadigol i blant a theuluoedd ar yr adeg hon o angen.

Mae Hafren, ynghyd â llawer o theatrau, yn darparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau i gymunedau lleol na dim ond rhoi dramâu ymlaen.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Hafren wedi camu i'r adwy i gyflwyno'r hyn a oedd yn arfer bod yn wasanaethau statudol.  Felly, os bydd Hafren yn gorfod cau gan na allwn ni fforddio'r biliau ynni, yna bydd effaith real iawn ar fywydau pobl.  Mae'r bygythiadau i bob lleoliad yn real iawn ac yn bryderus iawn.

Er gwaethaf ymdrech anhygoel staff mewn lleoliadau a theatrau i barhau i ddiddanu ac addysgu yn ystod y pandemig, mae'n ffaith drist ein bod wedi gweld mwy o leoliadau'n cau ers diwedd y pandemig nag yn ystod y pandemig.  Er y ceir cymaint o sôn am fyd ar ôl y pandemig, mae'n berthnasol i ailadrodd bod coronafeirws yn dal i fod gyda ni.  Sylw diweddar gan Opera Cenedlaethol Cymru "Mae Covid yn dal i ddigwydd. Rydym wedi gorfod colli un perfformiad oherwydd salwch - doedd ganddon ni ddim digon o staff mewn un adran i rigio'r rhesel oleuadau'n ddiogel. Mae yna adegau y mae'n rhaid i chi wneud penderfyniad.”

Fe wnaeth adroddiad a ryddhawyd gan y Gymdeithas Diwydiannau Gyda'r Nos yn gynharach eleni amlygu'r effaith ar y sectorau economi a hamdden yn y cartref yn ystod y pandemig.  Amcangyfrifwyd y collwyd 589,000 o swyddi yn y sector hamdden y tu allan i'r cartref, sef gweithgareddau y tu allan i'r hyn a ystyrir yn oriau gwaith rheolaidd 9am i 5pm, megis theatr a sinema.  Mae'r gadwyn Sinema ryngwladol, Cineworld wedi ffeilio i fod yn fethdalwr yn yr Unol Daleithiau'n ddiweddar, ac mae'n chwilio am fuddsoddiad i ailstrwythuro ei fodel busnes. 

Dengys ystadegau a ryddhawyd gan y Gymdeithas Diwydiannau Gyda'r Nos mai £136 biliwn ar draws yr economi ddiwylliannol gyfan y tu allan i'r cartref oedd y cyfrifiad o'r golled mewn refeniw rhwng Mawrth 30, 2020, a Mehefin 30, 2021 - gan gyfateb i 80% o'i werth blynyddol yn 2019.

Mae effaith y cyfyngiadau Covid-19 wedi gadael y diwydiant mewn cyflwr gwan, gyda nifer o leoliadau'n cau'n barhaol yn ystod y cyfnodau clo. Erbyn hyn mae'r argyfwng costau byw yn bygwth dinistrio'r rhan hon o'r sector a niweidio'r ecosystem y mae diwydiant adloniant y DU yn dibynnu arni.

·      Pa ymyriadau hoffech chi eu gweld gan Lywodraethau Cymru a'r DU?

 

Hoffwn weld cefnogaeth ar unwaith i sefydliadau celfyddydol, yn ogystal ag atebion tymor hwy gan gynnwys symud tuag at gyllid ar gyfer ôl-osod i greu adeiladau cynaliadwy, wedi'u hinswleiddio a'r defnydd gwyrddach o ynni.

Mae biliau ynni enbydus yn cael eu hadrodd gan theatrau ledled y wlad. Nid oes unrhyw siawns y gall y costau sy'n cael eu dyfynnu fod yn gynaliadwy dros unrhyw beth fel yr hirdymor.

Y patrwm arferol fyddai i'r costau hyn gael eu rhaeadru i lawr, o'r gweithredwr theatr i'r cynhyrchydd ac yna i'r cwsmer ar ffurf gwrthdaliadau ac yna cynnydd mewn prisiau tocynnau.  Ond mae cynhyrchwyr yn ei chael hi'n anodd gwneud arian fel y mae, gyda rhai yn penderfynu peidio cynhyrchu gwaith o ganlyniad tra bod theatrau a rhaglenwyr lleoliadau'n ceisio gwthio'r gost brynu i lawr er mwyn cyflwyno rhaglen sy'n fforddiadwy i'w cynulleidfaoedd, ar yr un pryd â thaclo eu biliau ynni eu hunain.

Yn y cyfamser, mae cynulleidfaoedd eu hunain yn wynebu cynnydd mewn prisiau ynni gartref a go brin yr oedd cynulleidfaoedd yn tyrru'n ôl i theatrau hyd yn oed cyn i'r gwaethaf o'r cynnydd hwn gael ei deimlo.  Felly, mae hyn yn fy nharo fel strategaeth beryglus a allai arwain at lai o sioeau a chynulleidfaoedd bychain.

Nid yw aros yn opsiwn chwaith. Er y gallai fod rhywfaint o help ar y gorwel gan y llywodraeth i fusnesau ac unigolion, mae hyn ond yn debygol o fod yn ateb tymor byr.  Yn y tymor canolig i hir, ychydig iawn o bobl sy'n darogan bod prisiau ynni'n debygol o ddychwelyd i lefelau cyn 2022; mae unigolion a busnesau fel ei gilydd yn mynd i orfod dod i arfer â thalu mwy am ein hynni.  Byddai benthyciadau tymor byr ar gyfer y 18 mis nesaf o weithredu yn gwbl ddibwrpas gan efallai na fydd llawer o sefydliadau celfyddydol yn goroesi tan hynny, gyda'r rhai sy'n llwyddo'n gorfod talu'r benthyciad yn ôl, a fydd ond yn ychwanegu at y baich ariannol.

Efallai y byddai ychydig o bethau y gallai theatrau eu gwneud i liniaru costau - er enghraifft, a allai prynu neu newid ar y cyd fod yn opsiwn i'r sector yn ei gyfanrwydd? – ond, yn gyffredinol, y prif drosol sydd gan theatrau i gadw costau i lawr yw drwy reoli'r defnydd o ynni.

Yn wir, er y gallai grantiau tymor byr i helpu theatrau i dalu biliau ymddangos fel ateb cyflym deniadol, ateb tymor hwy mwy synhwyrol fyddai i gyllidwyr fuddsoddi mewn helpu adeiladau a chynyrchiadau theatr i fod yn fwy cynaliadwy.

Mae'r Ymddiriedolaeth Theatrau'n cynnig grantiau mewn cydweithrediad â Sefydliad Wolfson i helpu theatrau i wella eu cynaladwyedd.  Gellid ehangu'r cynllun hwn a gallai Cyngor Celfyddydau Cymru (a'r sefydliadau cyfatebol yn y gwledydd datganoledig eraill) fod â mwy o rôl wrth helpu pob theatr - gan gynnwys y rhai yn y sector masnachol sydd yn aml yn rhai o'r adeiladau lleiaf ynni-effeithlon yn ein sector - i fod yn fwy gwyrdd ac, o ganlyniad, yn rhatach i'w rhedeg.

Mae rhenti a Threthi masnachol mewn sawl rhan o'r wlad eisoes yn anghynaladwy ac, yn ychwanegol at brisiau ynni masnachol heb eu capio a chwyddiant yn fwy cyffredinol, mae'n hawdd gweld y bygythiadau sy'n wynebu lleoliadau/theatr, ond yn arbennig y rhai mewn lleoliadau gwledig.  Mae'r rhain yn faterion systemig y mae'n rhaid i'r llywodraeth fynd i'r afael â nhw er mwyn diogelu rhai o leoliadau celfyddydau perfformio mwyaf poblogaidd y DU ac, ar ben hynny, sicrhau lles y wlad yn gyffredinol.

Mae effaith y cyfyngiadau Covid-19 wedi gadael y diwydiant mewn cyflwr gwan, gyda nifer o leoliadau'n cau'n barhaol yn ystod y cyfnodau clo. Erbyn hyn mae'r argyfwng costau byw yn bygwth dinistrio'r rhan hon o'r sector a niweidio'r ecosystem y mae diwydiant adloniant y DU yn dibynnu arni.

·      I ba raddau mae'r effeithiau rydych yn eu disgrifio yn effeithio'n wahanol ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is?

 

Fel y nodwyd yn gynharach, rydym yn cynnig gweithgareddau ar ôl ysgol, a gweithgareddau celfyddydol gwyliau, am ddim i lawer o blant sy'n wynebu caledi sylweddol a lefelau lluosog o amddifadedd.  Mae teuluoedd eisoes yn dweud wrthym mai ein cynnig ni yw'r unig beth mae eu plant yn cael gwneud y tu allan o'r ysgol gan na allant fforddio unrhyw beth arall.  Rwy'n tybio y bydd y galw hwn yn cynyddu'n sylweddol y gaeaf yma, wrth i deuluoedd geisio arbed ynni eu hunain.

Mae Hafren yn darparu atebion creadigol i bobl hŷn, gan weithio ochr yn ochr ag asiantaethau fel Age Cymru ac Alzheimers UK.   Mae mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd mewn cyd-destun gwledig yn rhan hanfodol o waith Hafren ac yn cymryd pwysau oddi ar Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion y cyngor sydd eisoes wedi'u gorlwytho.  Mae'r effeithiau ar ôl Covid ar y grŵp yma o bobl hŷn wedi bod yn arbennig o ddwys ar gyfer pobl sy'n byw gyda Dementia a'u gofalwr/gofalwyr.  Gan iddynt golli cysylltiadau cymdeithasol a bod yn arbennig o agored i Covid-19, mae wedi bod yn hanfodol bwysig i ailgysylltu mewn modd cyson. 

Mae'n fwy byth o gyfrifoldeb arnom i barhau i ddarparu amgylchedd cynnes, diogel, creadigol i blant, teuluoedd a'n holl gynulleidfaoedd ar yr adeg hon o angen.  Mae pobl sydd â nodweddion gwarchodedig wedi'u cynnwys yn ein gwaith i gyd, ac yn aml yn cynrychioli'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.  Maent hefyd yn ffurfio cyfran sylweddol o'r bobl mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is.